NNDM8221 - Dadl Aelodau
Wedi’i gyflwyno ar 09/03/2023Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ei osod yn ôl mewn mesurau arbennig;
b) bod adroddiadau annibynnol wedi tynnu sylw at berfformiad, arweinyddiaeth a diwylliant gwael ymysg y tîm gweithredol;
c) er i Weinidog iechyd Llywodraeth Cymru fynnu bod holl aelodau annibynnol y bwrdd yn ymddiswyddo, fod y tîm gweithredol yn parhau i fod yn eu swyddi;
d) methiannau'r bwrdd iechyd o ran gwneud gwelliannau sylweddol tra mewn mesurau arbennig a/neu ymyrraeth wedi'i thargedu ers 2015;
e) bod deiseb Senedd sy'n datgan bod y bwrdd iechyd wedi gadael pobl gogledd Cymru i lawr ac y dylid ei ddiddymu i unedau llai yn casglu llofnodion ar hyn o bryd.
2. Yn galw am:
a) ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i ystyried:
i) y rhesymau dros fethiannau hir dymor yn y GIG yng ngogledd Cymru;
ii) pam nad oes cynnydd wedi'i sicrhau er gwaethaf ymyrraeth Llywodraeth Cymru;
b) cynllun i fapio dechrau newydd i'r GIG yng ngogledd Cymru, gan gynnwys diddymu BIPBC a symud at fodel o fyrddau iechyd llai.