NNDM8220 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 08/03/2023

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) canlyniadau trychineb Grenfell lle collodd 72 o bobl eu bywydau, a'r effaith ar ddiogelwch tân mewn fflatiau uchel iawn ledled y DU; 

b) yr effaith y mae'r drasiedi wedi'i chael yn ariannol, ac ar iechyd a llesiant pobl sy'n byw mewn cartrefi uchel iawn.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) defnyddio unrhyw ddull a phob dull posibl i gywiro a gwella diogelwch adeiladau ar frys;

b) cyhoeddi llinell amser ar gyfer pryd y dylai'r rhaglen adfer ddod i ben.