NDM8218 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 01/03/2023 | I'w drafod ar 08/03/2023

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi adroddiad panel adolygu ffyrdd Llywodraeth Cymru, Dyfodol Buddsoddiad Ffyrdd yng Nghymru.

2. Yn gresynu at y diffyg ymgysylltu gan y panel adolygu ffyrdd gyda'r cyhoedd, cynrychiolwyr etholedig, awdurdodau lleol, busnesau a'r trydydd sector ac eraill yn ystod yr adolygiad. 

3. Yn credu bod argymhellion y panel adolygu ffyrdd i roi'r gorau i fuddsoddi mewn prosiectau ffyrdd hanfodol sydd wedi'u cynllunio i wella diogelwch ar y ffyrdd, mynd i'r afael â thagfeydd, lleihau llygredd aer a sicrhau buddion economaidd yn methu â chyflawni'r seilwaith trafnidiaeth y mae pobl Cymru yn eu haeddu.

Dyfodol buddsoddiad ffyrdd yng Nghymru

Gwelliannau

NDM8218 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 02/03/2023

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod yr angen am weithredu beiddgar a radical yn y sector trafnidiaeth i helpu i gyflawni allyriadau sero-net cyn 2050. 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i fuddsoddi mwy brys mewn trafnidiaeth gyhoeddus ac isadeiledd cerbydau trydan fel bod gan gymunedau ledled Cymru fwy o fynediad at opsiynau trafnidiaeth carbon isel neu di-garbon.

Cyflwynwyd gan