NDM8215 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 28/02/2023 | I'w drafod ar 07/03/2023Cynnig bod y Senedd, yn unol ag adran 116D o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn cytuno ar y penderfyniad ynghylch cyfraddau Cymru ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymru 2023-24 fel a ganlyn:
a) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd sylfaenol y dreth incwm yw 10c yn y bunt;
b) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd uwch y dreth incwm yw 10c yn y bunt; ac
c) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd ychwanegol y dreth incwm yw 10c yn y bunt.