NDM8205 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 08/02/2023 | I'w drafod ar 15/02/2023

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi ymchwil gan Cŵn Tywys Cymru sy'n awgrymu y byddai 2,000 o blant â nam ar eu golwg yn elwa o hyfforddiant sefydlu.

2. Yn nodi ymhellach bod hyfforddiant sefydlu yn hanfodol ar gyfer datblygu sgiliau byw'n annibynnol, symudedd personol a llywio ar gyfer plant â nam ar eu golwg.

3. Yn siomedig nad yw nifer o awdurdodau lleol Cymru yn cynnig hyfforddiant sefydlu, er gwaethaf eu dyletswydd i roi sylw dyledus i Erthygl 26 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) darparu cynllun gweithlu ar frys ar wasanaethau sefydlu; a

b) sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflogi o leiaf un arbenigwr sefydlu i bob 100 o blant â nam ar eu golwg. 

Erthygl 26 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (Saesneg yn unig)

Gwelliannau

NDM8205 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 10/02/2023

Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:

3.   Yn galw ar holl awdurdodau lleol Cymru i gynnig hyfforddiant sefydlu, yn unol â’u dyletswydd i roi sylw dyledus i Erthygl 26 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.

4.   Yn galw ar Lywodraeth Cymru i drafod â rhanddeiliaid perthnasol i helpu i ddatblygu cynllun gwella ar gyfer gwasanaethau sefydlu i blant â nam ar eu golwg, gan gynnwys ystyried eu hanghenion o ran hyfforddiant a sut i’w diwallu.