NDM8200 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2023 | I'w drafod ar 08/02/2023

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y cyfleoedd i borthladdoedd rhydd fywiogi economi Cymru, creu swyddi o ansawdd uchel, hyrwyddo adfywio a buddsoddi.

2. Yn nodi bod tri chais o Gymru wedi cael eu cyflwyno i'w hystyried gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau dau borthladd rhydd yng Nghymru, gan gydnabod y cynigion gwirioneddol eithriadol a gyflwynwyd a'r manteision trawsnewidiol y gallant eu cyflawni ar gyfer economi Cymru.

Gwelliannau

NDM8200 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 03/02/2023

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn cydnabod bod porthladdoedd, harbwrs, cyrchfannau glan môr a chymunedau arfordirol eraill yn cael eu gadael ar ôl a bod angen buddsoddiad i sicrhau eu hyfywedd tymor hir.

2. Yn cydnabod ymhellach fod cymunedau arfordirol yn wynebu problemau strwythurol hir dymor amryfal, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, dlodi a newidiadau amgylcheddol.

3. Yn nodi polisi porthladdoedd rhydd Llywodraeth y DU a'r newidiadau y cytunwyd arnynt i gynnig gwreiddiol Llywodraeth y DU.

4. Yn nodi ymhellach y cyflwynwyd tri chais o Gymru  i'w hystyried gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, a bod awdurdodau lleol a phartneriaid eraill wedi llunio ceisiadau y maen nhw'n credu sy'n adlewyrchu anghenion eu cymunedau.

5. Yn credu bod angen ymateb ehangach i'r materion sy'n wynebu ein cymunedau arfordirol gan gynnwys gwella seilwaith a mesurau i fynd i'r afael â thlodi.

6. Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gynyddu'n sylweddol y cyllid a ddarperir ar gyfer seilwaith a lleihau tlodi yn ein cymunedau arfordirol er mwyn mynd i'r afael â'r problemau sy'n eu hwynebu.

Cyflwynwyd gan

NDM8200 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 03/02/2023

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod y tri chynnig a gyflwynwyd wrthi’n cael eu hasesu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, yn unol â’r meini prawf a gyhoeddwyd ym Mhrosbectws Rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru: prosbectws ymgeisio a bydd canlyniad y broses yn benderfyniad ar y cyd rhwng Gweinidogion Llywodraeth Cymru a Gweinidogion Llywodraeth y DU fel rhan o broses agored a thryloyw.

Y Rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru: prosbectws ymgeisio