NNDM8193 - Dadl Aelodau
Wedi’i gyflwyno ar 25/01/2023Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi y cyflwynodd Llywodraeth Cymru Safonau Cymru Gyfan ar Gyfer Darparu Gwybodaeth Hygyrch i Bobl â Nam ar ar eu Synhwyrau yn 2013 i sicrhau bod anghenion cyfathrebu pobl sydd â nam ar eu synhwyrau yn cael eu diwallu wrth ddefnyddio gwasanaethau gofal iechyd.
2. Yn nodi ymchwil gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall Cymru sy'n dangos:
a) bod bron i un o bob tri (31 y cant) o bobl ddall ac phobl â rhannol ddall wedi colli apwyntiad oherwydd na chawsant wybodaeth a oedd yn hygyrch iddynt neu yr effeithiwyd ar eu hiechyd oherwydd hyn; a
b) bod dros hanner (56 y cant) wedi derbyn gwybodaeth am eu gofal iechyd gan eu meddyg teulu mewn fformat na allent ei ddarllen.
3. Yn nodi ymchwil gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar sy'n dangos y dywedodd 42 y cant o'r rhai a ymatebodd yr arolwg (a oedd naill ai'n fyddar neu wedi colli eu clyw) yng Nghymru eu bod yn cael anawsterau o ran cysylltu â gwasanaethau iechyd neu threfnu apwyntiadau.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:
a) i ddatblygu strategaeth genedlaethol i sicrhau bod gwasanaethau iechyd yn cydymffurfio â'r Safonau; a
b) penodi arweinydd hygyrchedd i oruchwylio gweithrediad y strategaeth a gwella hygyrchedd gwybodaeth gyhoeddus, fel yr argymhellwyd yn flaenorol gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.