NDM8188 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 18/01/2023 | I'w drafod ar 25/01/2023

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi sylwadau Conffederasiwn GIG Cymru fod GIG Cymru yn wynebu pwysau nad oes modd ymdopi ag ef.

2. Yn cefnogi ymdrechion arwrol gweithwyr y sector iechyd a gofal yng Nghymru wrth iddynt ddarparu gofal mewn amgylchiadau heriol.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth i leihau'r pwysau sy'n wynebu'r GIG gyda mesurau sy'n cynnwys, ond nad ydynt yn gyfyngedig i:

a) datrys anghydfodau cyflog cyfredol drwy ddyfarnu cynnig cyflogau gwell a sylweddol i weithwyr y GIG yng Nghymru;

b) strategaeth gyflawni glir gyda thargedau a chostau llawn, ar gyfer cynllun gweithlu newydd, gan gynnwys camau i dynnu elw o waith asiantaeth;

c) rhoi mesurau iechyd ataliol wrth wraidd pob polisi a gweithgaredd Llywodraeth Cymru sy'n gysylltiedig ag iechyd, gan gynnwys pob adran o'r Llywodraeth;

d) gwella gwytnwch ar y pwynt rhyngweithio rhwng iechyd a gofal, gan dynnu'r pwysau oddi ar ofal cymdeithasol drwy fwy o gapasiti cam i lawr y GIG, yn ogystal ag ehangu'r ddarpariaeth gofal cymdeithasol ar gyfer y tymor hwy; ac

e) gwella gweithio mewn partneriaethau, cyd-gynhyrchu atebion a darpariaeth o fewn y GIG, gan gynnwys drwy roi'r pŵer i weithrediaeth newydd y GIG wneud newid go iawn.

Cyflwynwyd gan

Gwelliannau

NDM8188 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 19/01/2023

Yn is-bwynt 3(b), dileu 'dynnu elw o weithio asiantaeth' a rhoi yn ei le 'gapio cyfraddau cyflog asiantaeth'.

NDM8188 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 19/01/2023

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn gresynu at y ffaith bod cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn cynnig torri'r gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol mewn termau real yn 2023-2024.

NDM8188 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 19/01/2023

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei diwygio i sicrhau cynnydd mewn termau real yn 2023-24.

NDM8188 - 4 | Wedi’i gyflwyno ar 20/01/2023

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn nodi'r camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru, GIG Cymru a phartneriaid llywodraeth leol sy’n cynnwys:

a) cyhoeddi buddsoddiad o £281m, y mwyaf erioed, mewn cyllidebau addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol ar 18 Ionawr 2023;

b) yr ymrwymiad i gyhoeddi cynllun y gweithlu erbyn diwedd Ionawr 2023;

c) y gwaith sydd ar y gweill gan y pwyllgor gweithredu gofal i greu gwelyau cymunedol ychwanegol;

d) y flaenoriaeth sy’n cael ei rhoi i ryddhau cleifion a gweithio gydag awdurdodau lleol;

e) y rhaglen diwygio contractau sy’n digwydd ar draws gofal sylfaenol;

f) y symud tuag at wasanaeth gofal cymunedol integredig sydd ar gael i bawb ym mhob rhan o Gymru;

g) y modelau sy'n cael eu datblygu drwy'r gronfa integreiddio rhanbarthol sydd ȃ’r bwriad penodol o greu capasiti cymunedol;

h) y gwaith sydd ar y gweill i gynyddu capasiti ailalluogi yn y gymuned;

i) rhoi Gweithrediaeth y GIG ar waith, a fydd yn gwella ansawdd a diogelwch gofal i bobl yng Nghymru.