NDM8187 - Dadl Aelodau
Wedi’i gyflwyno ar 19/01/2023 | I'w drafod ar 15/02/2023Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod Llywodraeth Cymru wedi cadw'r lwfans cynhaliaeth addysg, yn wahanol i Lywodraeth y DU yn Lloegr;
b) nad yw gwerth y lwfans cynhaliaeth addysg yng Nghymru wedi newid ers 2004, ac nad yw'r trothwyon cymhwysedd wedi newid ers 2011;
c) er bod y lwfans cynhaliaeth addysg yn fath pwysig o gymorth ariannol i ddysgwyr ôl-16, nid yw wedi cadw i fyny â phwysau costau byw.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried codiad sy'n gysylltiedig â chwyddiant i werth y lwfans cynhaliaeth addysg ac adolygiad o'r trothwyon.