NNDM8184 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
Wedi’i gyflwyno ar 12/01/2023Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig am Fil i sicrhau bod canllawiau cynllunio a pholisi datblygu canol trefi yn rhoi ystyriaeth ddigonol i ddiogelwch a rhywedd.
2. Yn nodi mai pwrpas y Bil fyddai:
a) gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ystyried diogelwch a rhywedd ym mhob penderfyniad cynllunio sy'n ymwneud â datblygiadau tai newydd sylweddol o ran mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol, ac mewn perthynas ag adfywio canol trefi;
b) ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr roi sylw dyledus i ddiogelwch a rhywedd mewn datblygiadau tai newydd sylweddol o ran mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol; ac
c) ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr roi sylw dyledus i ddiogelwch a rhywedd mewn mannau cyhoeddus yng nghanol trefi.