NDM8183 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2023 | I'w drafod ar 18/01/2023Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu y bydd defnyddio dyfroedd arfordirol Cymru yn helpu i gyflawni chwyldro mewn ynni gwyrdd ac adnewyddadwy.
2. Yn nodi bod modd creu tua 10,000 o swyddi gwyrdd a buddion ehangach.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith o ddatblygu ynni adnewyddadwy ar y môr yng Nghymru, gan sicrhau y darperir gweithlu â digon o sgiliau a chapasiti gweithgynhyrchu gwell.