NDM8176 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 10/01/2023 | I'w drafod ar 17/01/2023Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Banc Seilwaith y DU i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mai 2022 a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Gorffennaf 2022 a 30 Tachwedd 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Bil Banc Seilwaith y DU (Saesneg yn unig)