NDM8174 - Dadl y Llywodraeth
Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 10/01/2023 | I'w drafod ar 17/01/2023Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Awst 2022 a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Hydref 2022, 17 Tachwedd 2022 a 6 Rhagfyr 2022, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) (Saesneg yn unig)