NDM8165 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2022 | I'w drafod ar 14/12/2022

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at y ffaith bod gan Gymru'r cyfraddau tlodi plant uchaf yn y DU.

2. Yn cydnabod bod yr argyfwng costau byw presennol yn gwaethygu tueddiadau diweddar sydd wedi gweld cyfraddau tlodi plant yn cynyddu yng Nghymru, er gwaethaf addewid Llywodraeth Cymru i ddileu tlodi plant erbyn 2020.

3. Yn nodi nad yw Llywodraeth Cymru yn meddu ar strategaeth i fynd i'r afael â thlodi plant ar hyn o bryd, er gwaethaf y ffaith bod Comisiynydd Plant Cymru a grwpiau gweithredu tlodi plant eraill wedi galw dro ar ôl thro am ffocws a gweithredu penodol a brys yn y maes hwn.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth tlodi plant, wedi'i ategu gan dargedau statudol, a hynny ar frys.

Cyflwynwyd gan

Gwelliannau

NDM8165 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 09/12/2022

Cynnwys fel pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn croesawu'r camau y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd i helpu i leddfu'r pwysau costau byw y mae cartrefi yng Nghymru yn eu hwynebu.  

NDM8165 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 09/12/2022

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi buddsoddiad sylweddol Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant ac y bydd Llywodraeth Cymru, yn unol â'i Strategaeth Tlodi Plant gyfredol, yn cyhoeddi ei hadroddiad diweddaru y mis hwn ac yn cyhoeddi strategaeth ddiwygiedig yn 2023.