NDM8161 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 30/11/2022 | I'w drafod ar 07/12/2022

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried y pryderon difrifol a fynegwyd gan ddarparwyr llety hunanddarpar ledled Cymru ynghylch y cyfnod asesu ar gyfer penderfynu ar gymhwystra i gymhwyso ar gyfer ardrethi busnes yn 2022-2023, a diwygio'r rheoliadau yn unol â hynny.

Gwelliannau

NDM8161 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 02/12/2022

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod:

a) bod Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori’n eang ynghylch newidiadau i’r meini prawf a ddefnyddir i gategoreiddio llety hunanddarpar fel eiddo annomestig at ddibenion treth lleol, a fydd yn dod i rym o fis Ebrill 2023.
b) na chaiff cydymffurfiaeth â’r meini prawf newydd ei hasesu tan ar ôl 1 Ebrill 2023.
c) bod y newidiadau hyn yn rhan o becyn ehangach o fesurau sydd wedi’u cynllunio i gefnogi cymunedau lleol llewyrchus, lle y gall pobl fforddio byw a gweithio gydol y flwyddyn.

NDM8161 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 02/12/2022

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y pryderon a fynegwyd gan ddarparwyr llety hunanddarpar, sydd dan bwysau o ganlyniad i blatfformau fel AirBnB.

2. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru barhau i gynnal argymhellion yr ymgynghoriad diweddar i sicrhau y gellir gwahaniaethu rhwng llety hunan-arlwyo gwirioneddol ac eiddo domestig o safbwynt trethi lleol.

Cyflwynwyd gan