NDM8155 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Wedi’i gyflwyno ar 24/11/2022 | I'w drafod ar 25/01/2023

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig am Fil ar leihau ôl-troed carbon digidol 

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) ymateb i’r angen i fod yn fwy effeithlon yn ein defnydd o ddigidol yng Nghymru, fel rhan o’r ymdrech i gyrraedd net sero, yn benodol o ran defnydd ynni i redeg platfformau digidol;

b) cynnwys strategaeth i ymdrin â data sy’n cael ei greu, ei gadw a’i brosesu mewn ffordd mwy effeithlon o ran defnydd ynni;

c) gosod targedau ar gyfer sicrhau bod canolfannau data yn rhedeg yn y modd mwyaf effeithlon, yn cynnwys drwy ddefnyddio ffynhonnellau ynni adnewyddadwy, a thrwy hynny gefnogi datblygu sector data gwyrdd yng Nghymru;

d) sicrhau bod cynaladwyedd yn sail i bob penderfyniad a wneir wrth ymdrin â data gan gyrff cyhoeddus;

e) annog arloesi yn ddigodol i helpu i dad-garboneiddio ac i gyrraedd amcanion net sero cenedlaethol.