NNDM8153 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Wedi’i gyflwyno ar 24/11/2022

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n helpu i sicrhau bod galluoedd storio carbon y cefnfor yn cael eu gwireddu fel rhan o'r targed o ddod yn sero-net erbyn 2050.

2. Yn nodi mai pwrpas y Bil hwn fyddai:

a) gosod targedau ar gyfer gwrthdroi'r ffaith bod 92 y cant o forwellt y DU wedi diflannu yn ystod y ganrif ddiwethaf;

b) creu dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i gynllunio, gweithredu, a chynnal cynllun adfer carbon glas cenedlaethol i Gymru

c) adeiladu ar y ffaith bod o leiaf 113 miliwn tunnell o garbon glas eisoes wedi'i storio yn ein moroedd;

d) cryfhau'r prosesau ar gyfer rheoli a diogelu ardaloedd morol gwarchodedig.