NDM8151 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 23/11/2022 | I'w drafod ar 30/11/2022Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi y bydd Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn cael ei gynnal ar 3 Rhagfyr 2022.
2. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae busnesau bach yn ei wneud o ran cynnal economïau lleol, datblygu cymunedau a chreu swyddi.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r ysgogiadau sydd ganddi i gefnogi busnesau bach yng Nghymru yn well.