NDM8150 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 23/11/2022 | I'w drafod ar 30/11/2022Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.5:
1. Yn sefydlu pwyllgor diben arbennig ymchwiliad COVID-19 Cymru
2. Yn cytuno mai cylch gwaith y pwyllgor yw:
a) nodi ble nad yw ymchwiliad COVID-19 y DU yn gallu craffu'n llawn ar ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus Cymru i bandemig COVID-19;
b) cynnal ymchwiliad i'r meysydd a nodwyd;
3. Yn cytuno y bydd y pwyllgor yn cael ei ddiddymu erbyn Rhagfyr 2024 yn dilyn dadl yn y Cyfarfod Llawn ar ei adroddiad terfynol.