NDM8141 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2022 | I'w drafod ar 29/11/2022Cynnig bod y Senedd , yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru).
Gosodwyd Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 7 Mehefin 2022.
Gosodwyd adroddiad Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) gerbron y Senedd ar 18 Tachwedd 2022.