NDM8140 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 16/11/2022 | I'w drafod ar 23/11/2022Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu bod nyrsys Cymru yn haeddu tâl teg am eu gwaith hanfodol o ran cadw ein cymunedau'n ddiogel ac yn iach.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio pob ysgogiad datganoledig sydd ar gael iddi er mwyn gwneud cynnig tâl gwell i nyrsys y GIG yng Nghymru.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
NDM8140 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar
18/11/2022
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfarfod â Choleg Nyrsio Brenhinol Cymru i drafod ei ymgyrch ar gyfer cyflog teg a staffio diogel i osgoi streicio y gaeaf hwn.