NDM8131 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 10/11/2022 | I'w drafod ar 08/03/2023

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod yr arfer cyffredinol o gasglu a defnyddio data biometreg mewn ysgolion ledled Cymru yn peryglu data personol a phreifatrwydd plant.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth a fyddai'n:

a) sicrhau bod Erthygl 16 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sef hawl plentyn i breifatrwydd, yn cael ei gadarnhau o fewn Cymru; 

b) sicrhau bod ysgolion a lleoliadau gofal plant yn defnyddio technolegau nad ydynt yn fiometrig ar gyfer gwasanaethau, yn hytrach na defnyddio systemau biometrig a allai beryglu diogelwch data biometreg plant; 

c) sicrhau bod asesiadau risg priodol a phrosesau caffael cwmnïau technoleg mewn lleoliadau addysgol yn cael eu rhoi ar waith; 

d) cydnabod y niwed posibl o'r defnydd anrheoledig o ddata biometreg; 

e) cydnabod diffyg caniatâd pobl ifanc a phlant o fewn y defnydd cyfredol o ddata biometreg o fewn ysgolion.