NDM8130 - Dadl Aelodau
Wedi’i gyflwyno ar 10/11/2022 | I'w drafod ar 23/11/2022Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) cyhoeddi adroddiad Gyda'n Gilydd drwy Adegau Anodd gan MIND Cymru;
b) bod gwytnwch cymunedol yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl da.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio gyda'r sector gwirfoddol a chymunedol i adeiladu cymunedau gwydn drwy:
(i) hyrwyddo cyfalaf cymdeithasol;
(ii) buddsoddi mewn asedau cymunedol;
(iii) mynd i'r afael â rhwystrau sy'n wynebu rhai grwpiau;
b) cynnwys y rôl a chwaraeir gan asedau a rhwydweithiau cymunedol mewn unrhyw strategaeth iechyd meddwl yn y dyfodol.