NDM8121 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2022 | I'w drafod ar 09/11/2022

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i Gymru ymsefydlu fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang;

b) y gellir priodoli mwy na 50 y cant o goedwigoedd a gaiff eu colli yn fyd-eang a'r tir a gaiff ei drawsnewid i gynhyrchu nwyddau amaethyddol a chynhyrchion coedwigaeth y mae defnyddwyr yn galw amdanynt;

c) bod ardal sy'n cyfateb i 40 y cant o faint Cymru yn cael ei defnyddio dramor i dyfu llond llaw yn unig o nwyddau sy'n cael eu mewnforio i Gymru (palmwydd, soi, cig eidion, cacao, rwber naturiol, lledr, pren, papur a mwydion);

d) bod ardaloedd eang dramor yn cael eu dinistrio i greu nwyddau a anfonir i Gymru, gyda chanlyniadau trychinebus gan gynnwys cam-drin pobl frodorol, llafur plant, a cholli bioamrywiaeth.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:

a) i fod yn atebol am ac adrodd yr allyriadau sylweddol o nwyon tŷ gwydr a achosir gan Gymru dramor o ganlyniad i'r datgoedwigo a'r golled mewn cynefin sy'n gysylltiedig â mewnforio nwyddau i Gymru;

b) i gryfhau ei chontract economaidd – sy'n datblygu perthynas â busnes o amgylch twf ac arferion cyfrifol – i'w gwneud yn ofynnol i lofnodwyr ymrwymo i gadwyni cyflenwi nad ydynt yn cynnwys datgoedwigo, trosi ac ecsbloetio cymdeithasol;

c) i ddatblygu system fwyd fwy hunangynhaliol i Gymru drwy ddatblygu llwybr tuag at system fwyd sy'n addas ar gyfer y dyfodol ac sy'n rhoi ffynhonnell gynaliadwy o fwyd i gymunedau a fyddai'n cynnwys:

(i) gwrthdroi colli capasiti prosesu lleol;

(ii) gyrru cadwyni cyflenwi lleol;

(iii) blaenoriaethu mewnforio nwyddau cynaliadwy yn unig o dramor; a

(iv) helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd a diffyg maeth. 

d) i ddefnyddio ysgogiadau caffael i greu gofyniad i gadwyni cyflenwi fod yn rhydd o ddatgoedwigo, trosi ac ecsbloetio cymdeithasol, fel rhan o'r newid i ddefnyddio nwyddau cynaliadwy sydd wedi'u cynhyrchu'n lleol;

e) i gefnogi ffermwyr Cymru i roi'r gorau i ddefnyddio bwyd anifeiliaid da byw sy'n cael ei fewnforio sy'n gysylltiedig â datgoedwigo a thrawsnewid cynefinoedd dramor; 

f) i gefnogi prosiectau a mentrau rhyngwladol gyda'r nod o gadw ac adfer coedwigoedd yn y prif wledydd sy'n cynhyrchu nwyddau; a

g) i sicrhau ei bod yn hyrwyddo cytundebau masnach newydd a fydd yn gwarantu safonau amgylcheddol a hawliau dynol uchel, yn enwedig o amgylch datgoedwigo, ynghyd â mesurau gorfodi llym.  

Cyflwynwyd gan

Gwelliannau

NDM8121 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 04/11/2022

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

i gyflwyno siarter bwyd a diod lleol i annog siopau, caffis a bwytai i werthu bwyd a diod sy'n dod o ffynonellau lleol yn hytrach na bwyd a diod wedi'i fewnforio