NDM8118 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 01/11/2022 | I'w drafod ar 08/11/2022

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cofio ac yn cydnabod cyfraniad pawb sydd wedi gwasanaethu yn ein Lluoedd Arfog ac sy’n gwasanaethu ynddynt yn awr, yn enwedig y rhai a wnaeth yr aberth eithaf.

2. Yn mynegi ei diolchgarwch i’r Lluoedd Arfog yng Nghymru am eu cyfraniad parhaus i fywyd Cymru.

3. Yn croesawu ac yn talu teyrnged i’r gefnogaeth y mae sefydliadau’r trydydd sector yn ei darparu i’n cymuned Lluoedd Arfog yng Nghymru.

4. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflawni Cyfamod y Lluoedd Arfog drwy ddarparu gwasanaethau a chefnogaeth bwrpasol i’n cymuned Lluoedd Arfog a thrwy gydweithio ac ymgysylltu’n barhaus â rhanddeiliaid.

Gwelliannau

NDM8118 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 03/11/2022

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cefnogi'r angen i ymdrechu i gael datrysiad heddychlon i bob gwrthdaro a rhoi terfyn ar ryfel. 

Yn cofio pawb sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd a gwrthdaro, gan gynnwys anafusion sifil.

Cyflwynwyd gan