NNDM8106 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
Wedi’i gyflwyno ar 12/10/2022Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig am Fil i ddarparu fframwaith newydd ar gyfer cymorth a chefnogaeth i bobl agored i niwed sy'n cael eu rhoi mewn llety dros dro.
2. Yn nodi mai pwrpas y Bil hwn fyddai:
a) creu un fframwaith rheoleiddio ar gyfer diogelu pobl agored i niwed o fewn lleoliadau llety dros dro.
b) gosod rhwymedigaeth statudol benodol ar berchnogion neu weithredwyr gwestai, hosteli, lleoliadau gwely a brecwast ac adeiladau eraill sy'n darparu llety i sicrhau diogelwch a lles trigolion sy'n agored i niwed.
c) sicrhau bod y rhwymedigaeth hon yn cynnwys gofyniad i gynnal gwiriadau lles rheolaidd ar drigolion sy'n agored i niwed ac i hysbysu awdurdod lleol dynodedig ac asiantaethau cyhoeddus perthnasol o unrhyw ddirywiad mewn cyflwr neu amgylchiadau preswylydd sy'n cyflwyno neu y deallir eu bod yn cyflwyno perygl iddynt eu hunain neu eraill ar y cyfle cyntaf posibl.
d) creu dyletswydd newydd ar awdurdodau lleol i sicrhau lles trigolion ym mhob lleoliad sy'n darparu llety i drigolion agored i niwed ac y dylai hyn gynnwys asesiad diogelu cychwynnol a chyfweliad pan gânt eu derbyn er mwyn adnabod anghenion penodol.
e) rhoi'r pŵer i heddluoedd ac awdurdodau lleol roi hysbysiadau cau i safleoedd a nodwyd eu bod yn torri eu rhwymedigaethau, neu pan fo seiliau rhesymol yn bodoli i gredu bod trigolion wedi dangos perygl uniongyrchol neu barhaus iddynt eu hunain neu eraill neu lle bu perygl sylweddol neu aflonyddwch sy'n effeithio ar gymunedau lleol.