NDM8105 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 12/10/2022 | I'w drafod ar 19/10/2022

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at y ffaith bod gan Gymru'r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain Fawr.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar unwaith i leihau trethi annomestig i gefnogi busnesau a diogelu swyddi.

Gwelliannau

NDM8105 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2022

Ychwanegwch pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: 

Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i ddisodli'r system bresennol o ardrethi annomestig gyda chynigion ar gyfer un dreth dir ac eiddo newydd sy'n cwmpasu tir preswyl, tir masnachol, a thir diwydiannol (gyda thir amaethyddol yn parhau i gael ei eithrio).

Cyflwynwyd gan

NDM8105 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2022

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1.  Yn nodi’r gwahanol gyfraddau ardrethi annomestig sy’n bodoli yng Nghymru, gyda chyfran uwch o fusnesau bach a chanolig.

2.  Yn croesawu:

a)  y rhyddhad ardrethi annomestig y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i drethdalwyr bob blwyddyn, sy’n golygu nad yw 44 y cant yn talu unrhyw filiau.

b)  y cymorth ychwanegol gwerth £116 miliwn ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch eleni er mwyn eu helpu i adfer ar ôl y pandemig, gan ddarparu rhyddhad o hyd at 50 y cant ar eu biliau ardrethi annomestig.

c)   y ffaith bod, o ganlyniad i’r rhyddhad yma, 70 y cant o eiddo annomestig yng Nghymru yn derbyn cymorth â’u biliau ardrethi annomestig yn 2022-23.