NNDM8101 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Wedi’i gyflwyno ar 12/10/2022

Cynnig bod Senedd Cymru:

1. Yn nodi cynnig am Fil ar gynhyrchion misglwyf am ddim

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) sicrhau bod pawb sydd eu hangen, ble bynnag y maen't yn byw yng Nghymru, yn medru cael mynediad at gynnyrch misglwyf am ddim;

b) rhoi'r grym i Lywodraeth Cymru sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn darparu cynnyrch misglwyf am ddim;

c) sicrhau bod ysgolion, colegau a prifysgolion yn gorfod dapraru cynnyrch misglwyf am ddim yn eu tai bach.