NDM8091 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 05/10/2022 | I'w drafod ar 12/10/2022

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod rhenti cynyddol yn ychwanegu at bwysau ar aelwydydd ledled Cymru wrth i'r argyfwng costau byw waethygu ymhellach.

2. Yn nodi bod gwerthoedd rhent cyfartalog Cymru wedi cynyddu i £926 y mis ym mis Mehefin 2022, sef cynnydd 15.1 y cant o'i gymharu â Mehefin 2021.

3. Yn nodi'r niferoedd cynyddol ar restrau aros am dai cymdeithasol, a diffyg stoc tai cymdeithasol.

4. Yn nodi bod diffyg darpariaeth o dai priodol a bod pobl yn wynebu digartrefedd pan fyddant yn cael eu troi allan.

5. Yn credu bod yn rhaid gwarchod tenantiaid ar frys y gaeaf hwn.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu mesurau brys i:

a) rhewi rhenti yn y sector rhentu preifat;

b) gosod moratoriwm ar droi pobl allan.

Cyflwynwyd gan

Gwelliannau

NDM8091 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 06/10/2022

Dileu pwynt 6 a rhoi yn ei le:

Yn nodi'r symiau cynyddol y mae awdurdodau lleol yn eu gwario ar lety dros dro.

NDM8091 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 06/10/2022

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r nifer cynyddol o hysbysiadau troi allan adran 21 sy'n cael eu cyflwyno gan landlordiaid preifat.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithio gydag awdurdodau lleol i wella'r broses o hyrwyddo'r cynllun benthyciadau cartref gwag er mwyn dychwelyd rhagor o dai gwag i fod yn gartrefi;

b) adolygu a chyflymu'r broses o wneud cais cynllunio er mwyn galluogi datblygwyr i gyrraedd targedau adeiladu tai;

c) adolygu pa gamau y gellir eu cymryd i drosi lleoedd gwag uwchben unedau manwerthu i fod yn dai fforddiadwy, wedi'u lleoli'n ganolog.

NDM8091 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 07/10/2022

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn credu bod Llywodraeth y DU yn methu â deall ei chyfrifoldebau ynghylch mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw, ac yn galw ar i Lywodraeth y DU lynu wrth ei hymrwymiad i godi budd-daliadau yn unol â chwyddiant, gan gynnwys cynyddu cyfraddau’r lwfans tai lleol yng Nghymru. 

Yn cydnabod: 

a) bod tenantiaid cymdeithasol yn cael eu diogelu rhag codiadau rhent y gaeaf hwn;

b) o 1 Rhagfyr bydd y Ddeddf Rhentu Cartrefi yn cynnig rhagor o amddiffyniad i denantiaid rhag cael eu troi allan;

c) bod mwy na 25,000 o bobl sydd wedi cael eu hunain yn ddigartref wedi cael eu helpu i gael llety dros dro ers dechrau’r pandemig.

Yn croesawu:

a) y £6 miliwn ychwanegol ar gyfer awdurdodau lleol y gellir ei ddefnyddio i helpu i dalu ôl-ddyledion rhent neu i ddarparu gwarant rent;

b) y buddsoddiad o £65 miliwn mewn rhaglen gyfalaf ar gyfer llety trosiannol i gynyddu nifer y tai cymdeithasol, gan sicrhau bod gan ragor o bobl le y gellir ei alw’n gartref.