NDM8087 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 04/10/2022 | I'w drafod ar 11/10/2022

Cynnig bod y Senedd:

At ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.