NDM8086 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 28/09/2022 | I'w drafod ar 05/10/2022

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru 2022 i 2030 Llywodraeth Cymru.

2. Yn credu bod digwyddiadau mawr yn helpu i roi hwb i swyddi a'r economi drwy arddangos Cymru i'r byd.

3. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru'n dangos diffyg uchelgais wrth ddod â'r cyfleoedd hyn i Gymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried y strategaeth gan ganolbwyntio ar ddyhead, creadigrwydd ac arloesedd wrth ddenu digwyddiadau mawr i Gymru.

Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru 2022 i 2030

Gwelliannau

NDM8086 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 30/09/2022

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y caiff diwylliant a threftadaeth Cymru a'r Gymraeg eu hymwreiddio'n bellach yn y strategaeth, gan gynnwys digwyddiadau mawr cynhenid fel yr Eisteddfod Genedlaethol, a'n bod yn arddel defnyddio Cymru yn hytrach na Wales yn rhyngwladol.

Cyflwynwyd gan