NNDM8083 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 22/09/2022

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod tua 25 y cant o bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi, a bod tua 31 y cant o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi.

2. Yn nodi bod y New Economics Foundation a'r Social Prosperity Network yn yr UCL Institute for Global Prosperity yn cefnogi gweithredu gwasanaethau sylfaenol cyffredinol fel modd o fynd i'r afael â thlodi a darparu ansawdd bywyd da i bawb.

3. Yn nodi bod mathau cyfyngedig o gyffredinolrwydd eisoes yn bodoli yng Nghymru o ran darpariaeth gwasanaethau, er enghraifft drwy'r GIG ac addysg sector y wladwriaeth.

4. Yn credu bod enghreifftiau llwyddiannus o wasanaethau sydd ar gael i bawb mewn mannau eraill, ond nid yng Nghymru, i'w gweld mewn gwledydd megis Norwy, y Ffindir, Denmarc a Ffrainc, ac mewn dinasoedd fel Fienna, Barcelona, Bologna a Ghent.

5. Yn credu bod gan wasanaethau sylfaenol cyffredinol y potensial i fod yn ffordd effeithiol o liniaru tlodi a chyfraddau tlodi plant yng Nghymru.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio sut y gallai datganoli pwerau dros les a threthi gefnogi Llywodraeth Cymru i gyflawni ei nodau polisi, ac a ellid hwyluso hyn drwy fabwysiadu gwasanaethau sylfaenol cyffredinol.