NDM8078 - Dadl y Senedd

Wedi’i gyflwyno ar 21/09/2022 | I'w drafod ar 28/09/2022

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cymeradwyo Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd, yn unol â pharagraff 8(11)(d) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron Senedd Cymru ar 21 Medi 2022; a

2. Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer y cyfnod 2021-22, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron y Senedd ar 30 Mehefin 2022.