NNDM8043 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2022

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar hawliau dynol i ddinasyddion Cymru.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) sicrhau bod y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn parhau i fod yn gonglfaen sylfaenol i ddatganoli;

b) cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru;

c) gwneud hawliau dynol rhyngwladol dethol yn rhan o gyfraith Cymru fel eu bod yn rhwymo Gweinidogion Cymru ac awdurdodau cyhoeddus wrth arfer swyddogaethau datganoledig ac y gallant gael eu gorfodi gan lys neu dribiwnlys.