NDM8042 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2022 | I'w drafod ar 29/06/2022Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi datganiad yr Undeb Darlledu Ewropeaidd ar 17 Mehefin 2022.
2. Yn gresynu at y ffaith na ellir cynnal Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023 yn Wcráin oherwydd ymosodiad parhaus Rwsia.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â'r BBC a'r Undeb Darlledu Ewropeaidd ynghylch cynnal Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023 yng Nghymru.
Undeb Darlledu Ewrop: datganiad ar gynnal Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023 (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
NDM8042 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar
24/06/2022
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i baratoi cais i Gymru gymryd rhan fel cenedl yn ei rhinwedd ei hun yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision, gan hyrwyddo presenoldeb Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.