NDM8041 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2022 | I'w drafod ar 29/06/2022

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod dros 209,015 o bobl yng Nghymru yn byw gyda diabetes a bod gan Gymru'r nifer fwyaf o achosion o ddiabetes yng ngwledydd y DU.

2. Yn mynegi pryder am y cynnydd cyflym yn y diagnosis o ddiabetes dros yr 20 mlynedd diwethaf.

3. Yn cydnabod effaith andwyol barhaus pandemig y coronafeirws ar amseroedd aros, mynediad at wasanaethau, profion diagnostig, atal a gofalu am bobl â diabetes yng Nghymru.

4. Yn cydnabod yr angen am ymrwymiad o'r newydd i wella canlyniadau i bobl sydd â diabetes ac sydd mewn perygl o gael diabetes er mwyn cynnal y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r datganiad ansawdd ar gyfer diabetes cyn diwedd mis Gorffennaf ac ymrwymo i ddatblygu cynllun gweithredu newydd ar gyfer diabetes o fewn 12 mis.

Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes yng Nghymru

Gwelliannau

NDM8041 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2022

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 4 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn credu y gallai buddsoddi mewn mesurau ataliol arwain at leihad sylweddol mewn diabetes math 2, ac arwain at arbedion mawr i'r GIG.

Cyflwynwyd gan

NDM8041 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2022

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun atal diabetes sy'n canolbwyntio ar ddeiet a gweithgarwch corfforol, gyda chyllid priodol.

Cyflwynwyd gan

NDM8041 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2022

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod mwy o gymorth seicolegol arbenigol ar gael fel rhan annatod o'r cymorth a roddir i'r rhai sy'n byw gyda diabetes.

Cyflwynwyd gan

NDM8041 - 4 | Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2022

Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod bod gwaith ar y gweill i adfer gwasanaethau arferol i bobl â diabetes yn dilyn effaith y pandemig.

Yn cydnabod yr ymrwymiad sy'n bodoli o fewn y GIG yng Nghymru i:

a) sicrhau bod pobl yn cael eu cefnogi i wneud dewisiadau iach sy'n lleihau’r tebygolrwydd y byddant yn datblygu diabetes math 2;

b) gwneud cynnydd tuag at gynnig cyfle i'r rhai sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes math 2 yn ystod y chwe blynedd diwethaf gael mynediad at wasanaeth lleddfu diabetes; a

c) sicrhau gofal hygyrch sy'n canolbwyntio ar y claf i bobl â diabetes, yn ogystal â defnyddio technoleg ac addysg i'w helpu i reoli eu cyflwr yn well.

Yn nodi bod gwaith ar y gweill gyda rhanddeiliaid i ddatblygu datganiad ansawdd diabetes i'w gyhoeddi yn yr hydref.