NDM8039 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2022 | I'w drafod ar 29/06/2022

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: ‘Aros yn iach? Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Ebrill 2022. 

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mehefin 2022.