NDM8038 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2022 | I'w drafod ar 06/07/2022Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i wahardd cymalau 'dim anifeiliaid anwes' mewn llety rhent.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) cyflwyno cytundeb tenantiaeth safonol tebyg i gytundeb tenantiaeth enghreifftiol Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2021;
b) cynnig cyfres o fesurau a fyddai'n sicrhau nad yw perchnogion anifeiliaid anwes cyfrifol yn cael eu trin yn annheg o ganlyniad i'r math o lety y maent yn byw ynddo;
c) caniatáu mai'r sefyllfa ddiofyn gyfreithiol yw caniatáu anifeiliaid anwes mewn tai cymdeithasol a'r sector rhentu preifat, oni bai bod rheswm y gellir ei gyfiawnhau dros beidio â gwneud hynny;
d) ymestyn caniatáu anifeiliaid anwes mewn llochesi a llety i bobl ddigartref.