NNDM8029 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
Wedi’i gyflwyno ar 09/06/2022Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i wahardd defnyddio data biometrig mewn ysgolion a lleoliadau gofal plant.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) sicrhau bod Erthygl 16 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, hawl plentyn i breifatrwydd, yn cael ei chynnal yng Nghymru;
b) sicrhau nad yw ysgolion a lleoliadau gofal plant yn defnyddio technolegau a allai beryglu diogelwch data biometrig plant;
c) caniatáu i Lywodraeth Cymru sefydlu prosesau asesu risg a chaffael priodol ar gyfer cwmnïau technoleg mewn lleoliadau addysgol;
d) cydnabod y niwed posibl o ddefnyddio data biometrig heb ei reoleiddio;
e) cydnabod y diffyg cydsyniad gan bobl ifanc a phlant o ran y defnydd presennol o ddata biometrig mewn ysgolion.