NDM8027 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 08/06/2022 | I'w drafod ar 15/06/2022Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) pwysigrwydd datblygu'r broses o gynhyrchu hydrogen gwyrdd i helpu i ryddhau potensial Cymru o ran ynni adnewyddadwy i ddatgarboneiddio ynni, helpu i ddisodli tanwydd ffosil a helpu i ddarparu ateb hirdymor i'r argyfwng costau byw;
b) y gall datblygu'r sector hydrogen helpu i drawsnewid economi gylchol a sylfaenol Cymru yn unol â'r agenda lleoleiddio.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) lunio strategaeth hydrogen i Gymru gyda'r nod o fod ymhlith y gwledydd sydd ar flaen y gad o ran datblygu'r sector newydd hwn;
b) sicrhau bod rheolaeth a pherchnogaeth Cymru o'r sector newydd hwn yn cael eu rheoli i'r eithaf fel rhan o'i strategaeth.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
darparu treial cymdogaeth hydrogen erbyn 2023, ac yna treial pentref hydrogen mawr erbyn 2025, ac o bosibl cynllun peilot tref hydrogen cyn diwedd y degawd.