NNDM8020 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 07/06/2022

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi pwysigrwydd amaeth i Gymru o safbwynt economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diogelwch bwyd.

2. Yn nodi pwysigrwydd defnyddio tir amaethyddol gorau Cymru i gynhyrchu bwyd.

3. Yn nodi bod Polisi Cynllunio Cymru yn datgan y dylid rhoi cryn bwys ar ddiogelu'r tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas rhag ei ddatblygu, oherwydd ei bwysigrwydd arbennig.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i sicrhau bod y tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas ddim yn cael ei golli i gynlluniau megis datblygiadau solar a phlannu coed.