NNDM8017 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 07/06/2022

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod codi ffioedd cynnal a chadw ar breswylwyr sy'n daladwy i gontractwyr preifat yn arfer annheg ac yn anghynaliadwy.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) weithio gyda datblygwyr tai i sicrhau bod gwaith o safon uchel yn cael ei gwblhau a deddfu os oes angen;

b) gweithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol i hwyluso'r broses o fabwysiadu'r gwaith o gynnal a chadw ystadau tai newydd;

c) sicrhau bod cap yn cael ei roi ar y ffioedd sy'n daladwy i gwmnïau cynnal a chadw preifat a bod bil wedi'i eitemeiddio yn cael ei ddarparu lle na all awdurdodau lleol fabwysiadu'r gwaith o gynnal a chadw ystadau tai;

d) cynnwys cwmnïau rheoli ystadau ar gyfer datblygiadau rhydd-ddaliadol yng nghynllun trwyddedu arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer cwmnïau rheoli eiddo preswyl.