NNDM8016 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 01/06/2022

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi ansawdd uchel y bwyd a gynhyrchir yng Nghymru.

2. Yn nodi ymhellach nad oes digon o fwyd yn cael ei gynhyrchu na'i brosesu yng Nghymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag undeb yr amaethwyr, academyddion, manwerthwyr a chwmnïau prosesu bwyd ar ffyrdd o gynyddu faint o fwyd o Gymru sy'n cael ei dyfu a'i brosesu yng Nghymru.