NDM8015 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2022 | I'w drafod ar 08/06/2022

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chyflawni'r gwelliannau a addawyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

2. Yn credu bod y penderfyniad i symud y bwrdd iechyd o fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2020 yn amhriodol.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod trefn mesurau arbennig ddiwygiedig i roi'r arweiniad a'r adnoddau sydd eu hangen ar y bwrdd iechyd i fynd i'r afael â methiannau, a darparu'r gofal iechyd o ansawdd uchel y mae pobl Gogledd Cymru yn ei haeddu.

Gwelliannau

NDM8015 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 01/06/2022

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am gomisiynu adolygiad annibynnol i ystyried manteision posibl disodli Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr â strwythurau newydd i ddarparu gofal iechyd yn y gogledd, oherwydd ei broblemau cronig.

Cyflwynwyd gan