NDM6027 - Dadl Aelodau
Wedi’i gyflwyno ar 15/06/2016 | I'w drafod ar 15/06/2016Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu bod y swm o arian a gaiff ei wario gan y BBC ar raglenni Saesneg ar gyfer Cymru wedi disgyn 25 y cant yn y degawd diwethaf.
2. Yn credu bod gan BBC Cymru ran hanfodol i'w chwarae o ran adlewyrchu bywydau, uchelgeisiau a heriau pobl Cymru.
3. Yn nodi cyfaddefiad yr Arglwydd Hall bod y cyllid ar gyfer cynnwys Saesneg a gaiff ei wneud yng Nghymru ar gyfer cynulleidfaoedd Cymru wedi gostwng i lefelau anghynaliadwy, ac felly'n galw ar y BBC i amlinellu'n fanwl beth yw ei ymrwymiadau gwario o ran Cymru yn y dyfodol agos a'r dyfodol pellach.