NDM7996 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 04/05/2022 | I'w drafod ar 11/05/2022

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi y bu 438 o farwolaethau a oedd yn gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru yn 2020: y lefel uchaf mewn 20 mlynedd, a chynnydd o 19 y cant ers 2019.

2. Yn gresynu at y cynnydd yn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol, derbyniadau i'r ysbyty sy'n gysylltiedig ag alcohol, ac achosion o ddibyniaeth ar alcohol yng Nghymru, sy'n effeithio'n anghymesur ar y rhai sydd o dan anfantais economaidd-gymdeithasol.

3. Yn nodi Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau 2019 i 2022 Llywodraeth Cymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu ymrwymiad cryfach, gwell adnoddau a thargedau mesuradwy i fynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol o fewn cynllun cyflawni newydd ar gyfer camddefnyddio sylweddau o 2023 ymlaen.

Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau Llywodraeth Cymru 2019 i 2022

Cyflwynwyd gan

Gwelliannau

NDM7996 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 06/05/2022

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn pryderu bod nifer y triniaethau a ddechreuwyd ar gyfer camddefnyddio sylweddau yng Nghymru wedi gostwng 15 y cant dros y pum mlynedd diwethaf.

NDM7996 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 06/05/2022

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y bu 438 o farwolaethau a oedd yn gysylltiedig ag alcohol yn benodol yng Nghymru yn 2020: y lefel uchaf mewn 20 mlynedd, a chynnydd o 19 y cant ers 2019.

2. Yn nodi lefelau derbyniadau i’r ysbyty sy’n gysylltiedig ag alcohol ac effaith anghymesur alcohol ar gymunedau difreintiedig.

3. Yn nodi Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau 2019 i 2022 Llywodraeth Cymru.

4. Yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru ar gyfer camddefnyddio sylweddau drwy ddiogelu a chlustnodi cyllid ar gyfer hynny yn y gyllideb, y cynnydd o £9m yn y cyllid ar gyfer 2022/23 ac ymrwymiad i gynnydd pellach yn 2023/24 a 2024/25.