NDM7994 - Dadl Aelodau
Wedi’i gyflwyno ar 27/04/2022 | I'w drafod ar 11/05/2022Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod 90 mlynedd eleni ers yr Holodomor: y newyn a laddodd tua 4-6 miliwn o bobl yn Wcráin dros 1932/33.
2. Yn nodi ymhellach bod y newyn hwn wedi digwydd o ganlyniad i weithredoedd a pholisïau bwriadol yr Undeb Sofietaidd.
3. Yn mynegi ei chydymdeimlad ac yn estyn ei chydgefnogaeth i bobl Wcráin ar ran pobl Cymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn rhaglen goffáu i gofio dioddefwyr yr Holodomor ac i godi ymwybyddiaeth o ddioddefaint pobl Wcráin.