NDM7991 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2022 | I'w drafod ar 03/05/2022

Cynnig bod y Senedd:

1.     Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gryfhau a hyrwyddo hawliau dynol, cydraddoldeb a diogelu cymunedau lleiafrifol yng Nghymru.

2.     Yn nodi â phryder difrifol y symudiadau mynych gan Lywodraeth y DU i leihau hawliau dynol.

3.     Yn credu bod cynigion Llywodraeth y DU i ddiddymu'r Ddeddf Hawliau Dynol yn tanseilio amddiffyniadau allweddol i ddinasyddion ac yn codi materion cyfansoddiadol sylweddol.

4.     Yn credu bod Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd yn tanseilio hawliau cymunedau lleiafrifol ac yn peryglu'r hawl i brotestio’n gyfreithlon ac yn heddychlon.

5.     Yn cytuno â Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig y byddai'r Bil Cenedligrwydd a Ffiniau yn tanseilio'n ddifrifol y broses o ddiogelu hawliau dynol ac yn arwain at ymyriadau difrifol â hawliau dynol.

6.     Yn galw ar Lywodraeth y DU i wrthdroi ei dull o ymdrin â Hawliau Dynol, sy’n gam yn ôl, a'r tramgwyddo’n erbyn y cyfansoddiad yn sgil hynny.

Diwygio’r Ddeddf Hawliau Dynol: Mesur Hawliau Modern (Saesneg yn unig)

Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (Saesneg yn unig)

Y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau (Saesneg yn unig)

Cyd-gyflwynwyr

Gwelliannau

NDM7991 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 27/04/2022

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddiogelu a chynnal hawliau dynol.

2. Yn nodi cynigion Llywodraeth y DU i foderneiddio a gwneud deddfwriaeth hawliau dynol yn addas i'r diben.

3. Yn credu bod angen cydbwysedd priodol rhwng hawliau a chyfrifoldebau unigol.

4. Yn gresynu at record Llywodraeth Cymru o bleidleisio yn erbyn hawliau dynol gan gynnwys pleidleisio yn erbyn cyflwyno Bil hawliau pobl hŷn yn ystod y Pumed Senedd.