NDM7990 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 20/04/2022 | I'w drafod ar 27/04/2022

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn dathlu cryfder Cymru fel cyrchfan o'r radd flaenaf i dwristiaid.

2. Yn gresynu at effaith ddinistriol cyfyngiadau COVID ar y diwydiant twristiaeth yng Nghymru.

3. Yn credu y bydd newidiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru i'r system ardrethu annomestig yn tanseilio llawer o fusnesau llety gwyliau.

4. Yn nodi data Cynghrair Twristiaeth Cymru sy'n dangos na fydd mwyafrif helaeth o fusnesau'n gallu bodloni'r meini prawf i fod yn gymwys fel busnes llety gwyliau.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) roi'r gorau i gynigion niweidiol ar gyfer treth dwristiaeth yng Nghymru;

b) cydnabod bod y rhan fwyaf o'r ymatebion i'w hymgynghoriad yn gwrthwynebu'r newidiadau arfaethedig i ardrethi annomestig ar gyfer llety gwyliau;

c) rhoi'r gorau i gynlluniau i ymestyn nifer y diwrnodau y mae'n rhaid gosod eiddo er mwyn bodloni'r gofyniad ardrethu annomestig. 

Gwelliannau

NDM7990 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 22/04/2022

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1.    Yn cydnabod cryfder twristiaeth Cymru, sydd o’r radd flaenaf, ac yn croesawu’r cymorth sylweddol a roddwyd i’r diwydiant twristiaeth a gweithredwyr gan Lywodraeth Cymru drwy gydol pandemig COVID.

2.    Yn cydnabod diffiniad Sefydliad Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig o dwristiaeth gynaliadwy: “Twristiaeth sy’n ystyried yn llawn ei heffeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yn awr ac yn y dyfodol, gan ddiwallu anghenion ymwelwyr, y diwydiant, yr amgylchedd a’r cymunedau sy’n croesawu ymwelwyr”.

3.    Yn cydnabod bod ardollau twristiaeth yn gyffredin ar draws y byd, a bod yr incwm ohonynt yn cael ei ddefnyddio er lles cymunedau lleol, twristiaid a busnesau, sydd wedyn yn helpu i wneud twristiaeth yn gynaliadwy ac yn llwyddiannus.

4.    Yn croesawu’r ymrwymiad i gyflwyno ardollau twristiaeth lleol a fydd yn galluogi awdurdodau lleol i godi ardoll dwristiaeth os byddant yn dewis gwneud hynny.

5.    Yn nodi’r bwriad i gynnal ymgynghoriad sylweddol yn yr hydref yn 2022 fel rhan o broses ofalus o ddatblygu cynigion ar gyfer ardoll, a fydd yn cynnwys cymunedau, busnesau a gweithredwyr, ac yn nodi ymhellach y bydd y broses o drosi’r cynigion hynny yn ddeddfwriaeth yn destun craffu manwl a chymeradwyaeth gan y Senedd.

6.    Yn croesawu penderfyniad y Senedd ar 22 Mawrth i gymeradwyo Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022, a gyflwynwyd fel rhan o ymrwymiad ehangach i fynd i’r afael â phroblemau ail gartrefi a thai anfforddiadwy sy’n wynebu llawer o gymunedau yng Nghymru ac i fynd i’r afael â’r argyfwng tai.

7.    Yn croesawu’r ymrwymiad i weithredu ar yr ymgyngoriadau eang sydd wedi’u cynnal hyd yma i sicrhau bod trethi lleol yn gwahaniaethu rhwng llety hunanarlwyo go iawn ac eiddo domestig ac yn nodi bod ymgynghoriad technegol ar reoliadau drafft i ddiwygio’r meini prawf gosod eiddo ar gyfer llety hunanarlwyo, a gynhaliwyd fel rhan o’r gwaith tuag at gyflawni’r ymrwymiad hwn, wedi dod i ben ar 12 Ebrill; y mae’r ymatebion iddo wrthi’n cael eu dadansoddi.

Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022