NDM7980 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 19/04/2022 | I'w drafod ar 26/04/2022

Cynnig bod y Senedd:

1.    Yn nodi Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2020-21 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Ebrill 2022.

2.    Yn croesawu'r ffaith bod yr adroddiad yn cydnabod gwydnwch a dyfalbarhad y gweithlu addysg a sut y maent wedi bod yn hyblyg, yn greadigol ac wedi addasu mewn ffyrdd arloesol i gefnogi dysgwyr.

3.    Yn croesawu'r ffaith 'y rhoddodd yr holl ddarparwyr flaenoriaeth i les eu dysgwyr a’u bod yn parhau i gryfhau cysylltiadau gyda theuluoedd a chymunedau.

4.    Yn nodi na ddylem ddiystyru effaith y pandemig ar les dysgwyr, staff ac arweinwyr.

Gwelliannau

NDM7980 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 21/04/2022

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at ganfyddiadau Estyn y "daeth y rhaniad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a mwy breintiedig yn amlycach dros gyfnod y pandemig."

Yn credu y bydd y gwahaniaethau a amlinellir yn yr adroddiad yn cael eu gwaethygu ymhellach gan yr argyfwng costau byw ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag Estyn i gynyddu ymdrechion i sicrhau bod mesurau i gefnogi plant o gefndiroedd difreintiedig mewn ysgolion yn cael eu gweithredu ar frys.

Cyflwynwyd gan